
Ymateb i angen gwirioneddol rhai dros 50 oed mewn cymunedau ym Môn nad oedden nhw wedi, neu nad oedden nhw’n dymuno, ymgysylltu â thechnoleg newydd.
Llwyddodd y peilot digideiddio i ymateb i angen gwirioneddol rhai dros 50 oed mewn cymunedau ym Môn nad oedden nhw wedi, neu nad oedden nhw’n dymuno, ymgysylltu â thechnoleg newydd.
Roedd llawer o resymau dros hyn, gan gynnwys bod â gormod o ofn, ddim yn barod i ymgysylltu neu ddim yn gwybod neu’n deall y manteision. Mewn oes gynyddol dechnolegol, ar lein, ble mae banciau’n symud fwy-fwy ar y rhyngrwyd, apwyntiadau’r meddyg ar ‘my health on-line’, siopa ar lein am fwydydd ayb mae’n eithriadol o bwysig fod y bobl nad ydyn nhw eisoes wedi’u haddysgu yn y dechnoleg newydd hyn yn dod yn ddigidol ymwybodol. Cafodd y peilot felly ei dreialu i helpu cymuned sy’n heneiddio, rhai wedi’u hynysu yn eu cartrefi eu hunain, gyda phroblemau iechyd meddwl, yn weddw neu’n anabl heb offer na syniad sut i ddefnyddio Skype nac yn gallu cyfathrebu wyneb yn wyneb ar lein, i ymestyn allan a chofleidio byd newydd o gysylltedd a rhyngweithio cymdeithasol.
Yn gweithio gyda Chapter IT cysylltodd y peilot â meddygfeydd a nodi grŵp o bobl hŷn nad oedden nhw’n defnyddio technoleg fodern. Unwaith y ffurfiwyd y grŵp, prynwyd wyth Tabled Samsung a threfnwyd sesiynau hyfforddi i’r aelodau yn eu cartrefi eu hunain. Er mwyn eu galluogi i gysylltu’n iawn, prynwyd a thalu ymlaen llaw am ofod rhyngrwyd symudol a dysgodd y grŵp sut i ddefnyddio Skype, siopa ar lein, sefydlu bancio ar lein ac archebu apwyntiadau gyda’r meddyg.
Arweiniodd hyn at bob un aelod yn prynu offer a daliodd rhai ati gyda’r sesiynau ar ôl i’r peilot dod i ben.