
Nod y peilot Astrodwristiaeth, Awyr Dywyll, oedd cysylltu’n rhagweithiol gyda’r sector twristiaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Awyr Dywyll.
Nod y peilot Astrodwristiaeth, Awyr Dywyll, oedd cysylltu’n rhagweithiol gyda’r sector twristiaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Awyr Dywyll a dangos sut y gellir pecynnu Astrodwristiaeth a’i gyflwyno i dwristiaid ac annog y sector i gymryd rhan mewn marchnad newydd, gydol y flwyddyn, a fyddai’n cynorthwyo’r gymuned fusnes i elwa yn y ‘tymhorau tawel’ traddodiadol anodd.
Gweithiodd y peilot Awyr Dywyll gydag wyth o fusnesau twristiaeth ym Môn, pob un wedi cymryd rhan mewn cyfres o weithdai a dosbarthiadau meistr. Cafodd hynny ei ddilyn gan sesiynau un i un a chafodd pob busnes ysbienddrych a siartiau sêr er mwyn dysgu a dod i ddeall yn well sut y gellir defnyddio Awyr Dywyll i ddenu twristiaid newydd i’r ynys.
Sefydlwyd Grŵp Busnes Môn a thudalen Facebook Awyr Dywyll i geisio codi mwy o ymwybyddiaeth o botensial mentrau Awyr Dywyll i sector fusnes a chymunedau lleol.
Trefnwyd dau ddigwyddiad i gyd-fynd â throad y rhod yr Haf a’r Gaeaf, y cyntaf ar faes Sioe Môn a oedd yn canolbwyntio ar Syllu Solar ac yn cynnwys planetariwm, sesiynau ffilm, gwneud roced a phaentio wyneb. Roedd yr ail, Gŵyl Sêr Gwlad Hud y Gaeaf yn Nhyddyn Môn, yn cynnwys syllu ar y sêr, planetariwm, bwyd, crefftau, adrodd stori a cherddoriaeth.
Denodd y ddau ddigwyddiad dyrfaoedd mawr a oedd yn gwerthfawrogi’r profiadau newydd. Roedd Grŵp Busnes Awyr Dywyll, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Lleol yn cymryd rhan lawn ac yn egluro effeithiau llygredd golau ar fioamrywiaeth.
Casgliadau
Roedd y Grŵp Busnes Awyr Dywyll yn fodlon gyda chanlyniadau’r prosiect ac yn awyddus i baratoi pecynnau Gwyliau Astrodwristiaeth, ond, hyd yma, does dim pecynnau gwyliau wedi’u creu. Fodd bynnag, mae’r busnesau’n hyrwyddo Awyr Dywyll Môn ac yn gobeithio dal i gefnogi cais yr awdurdodau lleol am Statws Cymuned Awyr Dywyll Ddynodedig.
Cynlluniau peilot eraill o ganlyniad i’r gwaith hwn
Awyr Dywyll Rhyngwladol – Argo Navis – prosiect cydweithredu LEADER Dilyn y Sêr – Môn, Gwynedd, Lithiwania, Awstria ac Estonia.