
Cododd yr angen am Astudiaeth Crefftwyr Gwlad o flynyddoedd lawer o waith Menter Gymdeithasol Llangefni.
Cododd yr angen am Astudiaeth Crefftwyr Gwlad o flynyddoedd lawer o waith Menter Gymdeithasol Llangefni a oedd yn ceisio canfod model gwaith a fyddai’n adfywio marchnadoedd awyr agored traddodiadol Môn, a oedd yn edwino.
Mae’n wybyddus fod gan Fôn gyfoeth o fwydydd a chynnyrch eraill yn cael eu gwneud gartref sy’n cael eu gwerthu’n unigol ond nid gyda’i gilydd mewn marchnadoedd trefi traddodiadol. Roedd hynny’n dangos fod angen canfod ffordd o weithio gyda chynhyrchwyr presennol i ganfod cynnyrch newydd gan grefftwyr gwlad a fyddai’n arddangos yr ynys a chreu math newydd o farchnad, gydag ansawdd adnabyddus ac a fyddai’n cyd-fynd â busnesau eraill yn y trefi ble mae’n cael ei chynnal.
Y weledigaeth tymor hir yw, mewn gwirionedd, yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n diwydiant bwyd, sef dod ynghyd y “gwir” gweithiwr o gartref, masnachwr unigol, diwydiant cartref, cynhyrchwyr unigryw GWIR grefftau gwlad, gan roi iddyn nhw frand ar y cyd a llwybr i farchnata eu cynnyrch.
Er mwyn galluogi’r sector crefft ar Ynys Môn i gyflawni’i weledigaeth o ragoriaeth cystal â chyflawniadau’r sector bwyd ar Ynys Môn, comisiynwyd astudiaeth i ganfod Crefftwyr Gwlad sydd â chynnyrch newydd. Cafwyd hyd i’r cynhyrchwyr hyn trwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwybodaeth mewn siopau crefft ac elusennau lleol ac ymchwiliadau cymunedol lleol.
Casglwyd a archwiliwyd y crefftau a derbyniodd y goreuon ychydig o gyngor a chefnogaeth fusnes i’w galluogi i benderfynu a oedden nhw eisiau cynnig eu cynnyrch mewn marchnad. Os oedden nhw â diddordeb, fel fydden nhw’n rhan o grŵp Crefftwyr Gwlad newydd Môn – Môn Made.
Casgliadau
Casgliadau’r astudiaeth oedd:
- Darganfuwyd 23 o grefftwyr gwlad
- Roedd 8 o’r rhain o ansawdd uwch ac yn awyddus i symud eu busnes ymlaen
- Crëwyd un rhwydwaith newydd ‘Môn Made’
- Dangosodd y prosiect fod rhai crefftwyr gwlad ar Ynys Môn yn gweithio mewn ‘silos’. Dangosodd hefyd fod angen gwella sgiliau’r crefftwyr hyn drwy sefydlu neu ddatblygu eu busnes, yn enwedig o ran marchnata a defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol.
- Nododd yr astudiaeth hefyd fod yna bobl ifanc sy’n grefftwyr da ac sy’n awyddus i alluogi pobl ifanc eraill i gyflawni hefyd.
Peilotiaid eraill o ganlyniad i’r gwaith hwn
Darparodd yr astudiaeth niferoedd, ansawdd, creu grŵp (Môn Made) a arweiniodd at weithgaredd peilot yng Ngŵyl Slam Bwyd yn Llangefni.