
Cafodd y prosiect peilot Croeso Cymraeg ei ddylunio i weithio gyda phum busnes yn y sector lletygarwch yn ardal a chyffiniau Caergybi.
Cafodd y prosiect peilot #Croeso Cymraeg ei ddylunio i weithio gyda phum busnes yn y sector lletygarwch yn ardal a chyffiniau Caergybi.
Y nod oedd darparu arweiniad a chymorth wedi’u teilwra i’r busnesau ar sut i ddefnyddio neu ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu busnes, darganfod y manteision economaidd, ychwanegu gwerth at eu busnes a gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg.
Cynhaliwyd y peilot #CroesoCymraeg yn ystod ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Bodedern, Ynys Môn fis Awst 2017. Mae’r Eisteddfod yn denu mwy na 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i’r ardal lle mae’n cael ei chynnal ac felly, roedd yn gyfle amserol i wella lefel y gwasanaeth Cymraeg, y ddelwedd ddiwylliannol ac i gynyddu hefyd y defnydd o’r iaith yn a chan fusnesau’r ynys.
Cafodd y pum busnes llwyddiannus eu recriwtio trwy broses galw agored a chael cynnig pecyn o gefnogaeth a oedd yn cynnwys, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a defnydd positif o’r iaith, cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau, cyfieithu a marchnata arbenigol o fewn eu busnesau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd pob busnes yn dweud fod mwy o bobl wedi galw yn ystod y cyfnod peilot ac wedi ymrwymo i gynnwys mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu busnesau.
Casgliadau
Nid oedd cymaint o fusnesau â’r disgwyl wedi manteisio ar y cyfle ond mae rhai o’r mentrau wedi’u mabwysiadu gan ymarferwyr ac mae’r gwersi a dysgwyd wedi’u rhannu a’u datblygu gan Fenter Iaith Môn.