
Bwriad astudiaeth dichonoldeb Mwclis Llangristiolus oedd ystyried problemau cysylltiad ffôn symudol a chynhyrchu Ap ‘Dull Gêm’ y gellid ei ddefnyddio i ddenu ymwelwyr a phobl leol.
Bwriad astudiaeth dichonoldeb Mwclis Llangristiolus oedd ystyried problemau cysylltiad ffôn symudol a chynhyrchu Ap ‘Dull Gêm’ y gellid ei ddefnyddio i ddenu ymwelwyr a phobl leol i gerdded y tri llwybr a enwir yn ardal Llangristiolus ym Môn.
Dangoswyd fod angen rhoi blaenoriaeth yn yr ardal i beilot Mwclis Llangristiolus er mwyn gwneud yn siŵr bod llwybrau troed yn yr ardal yn cael eu marchnata a’u defnyddio’n dda er mwyn eu cadw ar agor ac ar gael i bawb.
Mae’n wybyddus mai pobl oedran 40 – 80 yw’r cerddwyr fel arfer ym Môn a bod yn well gan blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon neu unrhyw beth digidol. Mae ‘Pokemon’ wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn cael pobl ifanc allan ac o gwmpas ac, heb iddyn nhw sylwi, ddysgu am amrywiaeth o bethau yn eu cymunedau.
Gan weithio gyda’r sector preifat a’r clwb ieuenctid lleol, cytunwyd mai’r ateb mwyaf arloesol er mwyn denu mwy o bobl i gerdded llwybrau Llangristiolus fyddai drwy archwilio’r posibilrwydd o gael Ap fel ‘Pokermon’ a fyddai’n defnyddio pobl fytholegol / enwog neu eiconau mewn rhaglen fel helfa drysor a fyddai’n defnyddio cryfderau’r ardal, y golygfeydd, yr hanes a’r amgylchedd naturiol.
Cafodd prototeip ei gynhyrchu, ei dreialu a’i gymeradwyo gan y grŵp datblygu a’r cyfnod nesaf oedd datblygu’r rhaglen ymhellach a hyfforddi gwirfoddolwyr i ddiweddaru’r Ap yn ôl y gofyn.
Casgliadau
Roedd yn amlwg fod y gwaith a wnaed wedi hogi diddordeb y bobl ifanc oedd yn cymryd rhan, fodd bynnag, byddai datblygu ymhellach yn ddrud a byddai angen denu buddsoddiad ychwanegol.