
Bwriad y peilot Pasbort i Fôn oedd treialu menter docynnau ar y cyd ar gyfer busnesau twristiaeth Môn.
Bwriad y peilot Pasbort i Fôn oedd treialu menter docynnau ar y cyd ar gyfer busnesau twristiaeth Môn (gan gynnwys mentrau cymdeithasol). Byddai’n creu model cydlynedig, cynllun pas, a fyddai’n galluogi ymwelwyr i ymweld â nifer o atyniadau yn ystod eu hymweliad â’r ynys a derbyn gwybodaeth a phrofiadau ymwelwyr gwell a fyddai ar gael i ddeiliaid pasbort yn unig.
Diwydiant twristiaeth yr ynys a soniodd bod angen peilot Pasbort i Fôn, yn codi o’u pryder y byddai gweithwyr adeiladu a’u teuluoedd, a fyddai’n cael eu denu gan y datblygiadau mawr sydd ar y gweill ar gyfer Môn, gan gynnwys Wylfa B, yn meddiannu llawer o’r gwelyau sydd ar gael i dwristiaid ar hyn o bryd. O ganlyniad, mae angen, pwysig ac ar frys, i gryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer ymwelwyr dydd a chynllun Pas oedd un ateb a ddewiswyd ar gyfer ei beilota.
Cafodd pum busnes denu twristiaid ym Môn eu recriwtio i gydweithio i ddatblygu a pheilota menter tocynnau ar y cyd. Y bwriad oedd annog ymwelwyr i ymweld â nifer o atyniadau a derbyn gwybodaeth ynghylch mannau eraill, gerllaw. Fodd bynnag, penderfynodd y rhan fwyaf o’r partneriaid yn y grŵp busnes gynnig, yn hytrach na disgownt, becynnau o brofiadau unigryw, y tu ôl i’r llenni, ar gyfer deiliaid Pas yn unig.
Ymchwiliodd y grŵp busnes i gostau mynediad, profiadau unigryw, pecynnau arbennig, y broses archebu, polisïau disgownt a pha adnoddau a fyddai eu hangen i redeg y peilot. Bu’n ystyried hefyd sut y gallai gynhyrchu’r pasbort a sut y byddai’n gweithio.
Cynhyrchwyd ffilmiau o’r pecynnau Pasbort, gan gynnwys Catch 22, Halen Môn a RibRide. Dim ond i ddeiliaid Pasbort oedd y pecynnau arbennig hynny ar gael. Cafodd y ffilmiau eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol gan y busnesau unigol a’u postio ar lwyfan TeliMôn.
Gwnaed darpariaeth hefyd ar gyfer hyfforddi staff i weithredu a chyfrannu at y prosiect trwy gofnodi data, cyflwyno gwybodaeth i ymwelwyr a chyfeirio ymwelwyr at atyniadau partner.
Casgliadau
Yn anffodus, daeth yn gynyddol amlwg fod llwyddiant peilot Pasbort i Fôn yn dibynnu ar ateb mwy digidol – presenoldeb y Pasbort a gallu archebu’r profiadau ar lein. Oherwydd ei bod erbyn hynny’n brif tymor ymwelwyr doedd y grŵp busnes ddim ar gael i ddatblygu’r syniad ymhellach ac nid oedd syniadau’n cael eu cyfrannu. Felly roedd yn rhaid cefnu ar y peilot Pasbort i Fôn. Dysgwyd gwersi ac maen nhw wedi’u rhannu.