
Ymchwilio i a darparu dewisiadau / atebion digidol
Nod yr astudiaeth Pentrefi Digidol oedd ymchwilio i a darparu’r dewisiadau / atebion digidol gorau i alluogi pentrefi ym mewndir Môn sef Talwrn, Bryngwran a Llanfechell i ymgysylltu, rhyngweithio a rhannu’u hanes gyda busnesau lleol ac ymwelwyr â’u hardaloedd.
Prosiect ymchwil oedd yr astudiaeth Pentrefi Digidol mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a’r sector preifat. Roedd yn ymchwilio i faint o ddefnydd digidol oedd yn cael ei wneud yr adeg hynny yn Nhalwrn, Bryngwran a Llanfechell ac awgrymodd pa gynigion digidol ellid eu cyflwyno i’r pentrefi a sut y gellid eu defynddio’n ymarferol i wella profiad ymwelwyr.
Holwyd haneswyr a thrigolion lleol a chafodd hanes sgwâr Llanfechell yn yr oesoedd canol, pwysigrwydd amgylcheddol Talwrn a’i warchodfa natur a hanesion pobl / chwedlau Bryngwran eu cofnodi a’u troi’n ddigidol ar gyfer eu datblygu ymhellach.
Casgliadau
Daeth yr ymchwil i’r casgliad y dylai pob ardal gael cynnig dewisiadau digidol gwahanol:
Creu aps a mapiau ar gyfer pob ardal, dewis llwybrau pentref ar fap 3D neu ddewis lleoliad presennol, defnyddio map o lwybr a cherdded i’r man cyntaf o ddiddordeb.
Bydd yr ap yn eich hysbysu pan fyddwch wedi cyrraedd pob lleoliad:
- Talwrn – gêm helfa drysor i gofnodi a chasglu’r fflora a’r ffawna yn y Warchodfa Natur – Cors Bodeilio
- Bryngwran – Tynnu hunlun gyda’r creadur / person chwedlonol (Madam Wen) yn Nhafarn Gymunedol Iorwerth Arms a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol
- Llanfechell – Defnyddio’r ap ar y cyd â ffôn symudol a sbectol 3D a chamera i ddatgelu adeiladau’n cael eu hail adeiladu a mythau a chwedlau’n dod yn fyw.
Mae prosiectau eraill yn codi o’r astudiaeth hon yn cynnwys:
Cafodd yr ateb a awgrymwyd ar gyfer Talwrn ei ymchwilio ymhellach yn Llangristiolus – Mwclis Llangristiolus
Cafodd y dewis o Fadam Wen ar gyfer Bryngwran ei beilota.