
Treialu gwasanaeth hyfforddi a chyflwyno gwybodaeth wyneb yn wyneb i’r gymuned trwm eu clyw trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.
Bwriad y peilot DAISY oedd treialu gwasanaeth hyfforddi a chyflwyno gwybodaeth wyneb yn wyneb i’r gymuned trwm eu clyw trwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Yn 2016 does dim modd i bobl fyddar neu drwm eu clyw ym Môn gysylltu wyneb yn wyneb dros Skype. Roedd y peilot yn gobeithio cysylltu defnyddwyr gwasanaeth o bob oed gyda chyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain a’r person Cyswllt Cymunedol ym Medrwn Môn i gael gwasanaeth sylfaenol gan gyrff y trydydd sector a fydd yn eu helpu nhw i fyw bywydau mwy annibynnol.
Roedd y peilot System Dehongli Mynediad Digidol (DAISY) yn cyd-fynd yn dda gyda Leader gan ei fod yn arloesol a bod y gymuned Byddar a Thrwm eu Clyw wedi dangos bod angen system o’r fath.
Daeth y cais gwreiddiol oddi wrth Linc Cymunedol Môn, yn gweithio ym Medrwn Môn, a oedd wedi sylwi bod bwlch yn y gwasanaethau. Amlygodd y bwlch nad oedd unrhyw linell ffôn dynodedig neu wasanaeth e-bost ar gael i’r gymuned Trwm eu Clyw a’u bod yn cysylltu’n bennaf drwy berson arall h.y. aelod o’r teulu neu gyfieithydd. Roedd hynny’n dangos yn glir bod angen am y Peilot Daisy arloesol a fyddai hefyd yn ateb gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae’r Ddeddf yn datgan bod dyletswydd ar Ddarparwyr Gwasanaethau Cyhoeddus i GYNWYS cymunedau mewn cynllunio, polisïau a chymryd penderfyniadau. Mae’r ffaith nad yw gwybodaeth ar gael yn hwylu,s yn enwedig i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, yn gwneud hyn yn eithriadol o anodd,.
Rhedodd y peilot am 6 mis gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ac:
- Hyfforddwyd staff i hyfforddi defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio ffonau symudol a thabledau i gysylltu â chyfieithwyr (gwasanaeth am ddim i ddefnyddiwr gwasanaeth)
- Codi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant trwy Gymdeithas y Byddar Gogledd Cymru a fforymau cysylltiedig, sef y rhai mwyaf galluog i wneud hynny
- Cafwyd offer gan Medrwn Môn a Menter Môn
- Cynhyrchwyd fideo hyfforddi a chafodd ei lanlwytho ar You Tube
- Cafodd y gwasanaeth ei dreialu am ddau ddiwrnod yr wythnos 10.00am – 3.00pm o Neuadd y Dref Llangefni
Casgliadau
Cysylltodd DAISY gyda 1,074 o gyfranogwyr trwy wahanol gyfryngau. Bwriad gwreiddiol y prosiect oedd cynnig help i gymuned Byddar a Thrwm eu Clyw Môn a’u galluogi i gael gwasanaethau gan Cyngor ar Bopeth, Cyswllt Cymunedol, Rhannu Car a chynlluniau bod yn gyfaill ayb. Fodd bynnag amlygodd y peilot angen gwahanol iawn, sef ei bod yn anodd cysylltu gyda’r gwasanaethau statudol – tai, gwasanaethau cymdeithasol ac adrannau awdurdod lleol eraill, sy’n dangos y dylai’r Awdurdod Lleol fod â’i gyfieithydd Iaith Arwyddo Prydain ei hunan.