
Canlyniad i astudiaeth dichonoldeb positif a gynhaliwyd gan Martin Higgitt Associates oedd Peilot Trên Dir Caergybi.
Ddiwedd Gorffennaf a dechrau Awst 2019 llogwyd Trên Dir gyda dwy goets oddi wrth Land Train Hire Nationwide a chynhaliwyd peilot. Roedd y marchnata’n cynnwys gosod Byrddau-A ym mannau ble byddai’r trên yn aros, posteri, tudalen Facebook ac ar lafar.
Y man cychwyn oedd Traeth Newry, ac yna ymlaen i Barc Morglawdd Caergybi, i mewn i’r Dref a’i hatyniadau ac yna yn ôl i Newry. Roedd y gwasanaeth tocynnau’n treialu un cylch llwybr llawn gyda’r dewis o neidio ymlaen a neidio i ffwrdd ac roedd yn gweithredu 7 diwrnod o 10.00am tan 5.30pm. Fodd bynnag, yn fuan iawn newidiwyd hynny i 11.00am – 4.00pm er mwyn bodloni’r gofyn.
Cafodd holiaduron ar y trên eu cwblhau a’u hyrwyddo gan grŵp o wirfoddolwyr yn gweithio mewn shifftiau a llwyddodd y cyfnod peilot i wasanaethu 1022 o deithwyr heb yr un gŵyn!
Casgliadau
Dangosodd y peilot y byddai gweithredu’r Drên Dir yn gynaliadwy ac yn ased werthfawr i Gaergybi. Felly, mae menter gymdeithasol leol wedi cyflwyno bid i Ymddiriedolaeth Elusennol Môn am gyllid i brynu Trên Dir ac i’w rhedeg ar sail masnachol.