
O’r cais hwn i’r Gronfa Gymunedau Creadigol daeth arian i gwmni Rheoli Prosiect baratoi gwerthusiad
O’r cais hwn i’r Gronfa Gymunedau Creadigol daeth arian i gwmni Rheoli Prosiect baratoi gwerthusiad a rheoli’n dda ddewisiadau a dyluniadau a alluogodd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Porthaethwy i gwblhau cynlluniau cyfnod Cyn Gwaith Cyfalaf ar gyfer ehangu’r busnes a oedd yn cynnwys:
- RIBA 1 – paratoi a chynhyrchu brîff, datblygu’r prosiect, canlyniadau, cynaliadwyedd a dichonoldeb cychwynnol
- RIBA 2 – dylunio cysyniad, paratoi nifer o gynlluniau amlinellol i gyfarfod â’r brîff a gytunwyd
- RIBA 3 – Datblygu’r dyluniadau, terfynu’r dyluniad at y cyfnod cyflwyno cais cynllunio
Cais oedd hwn i edefyn Cymunedau Creadigol o LEADER i gefnogi Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Porthaethwy i gyflwyno cais i gael y caniatâd cynllunio ar gyfer symud Canolfan Amgueddfa Thomas Telford i Lanfa’r Tywysog ym Mhorthaethwy, lleoliad braf sy’n denu llawer o bobl. Bydd hynny’n galluogi’r busnes i fod mewn adeilad mwy a fydd yn cynnwys amgueddfa a lle swyddfa gyda chaffi ar lan y dŵr. Bydd leoliad yn yr ardal hon o Borthaethwy ar Afon Menai yn denu ymwelwyr a phobl leol i ddefnyddio’r adnoddau ac yn galluogi’r fenter gymdeithasol i gymryd mantais o’r lleoliad, creu arian ychwanegol i’r gymuned ac felly sicrhau cynaliadwyedd economaidd yn y dyfodol.